|
Mae'r wefan hon wedi ei llunio'n bwrpasol ar gyfer iechyd a lles y sector gwirfoddol a bydd yn caniatáu mynediad at yr hwyluswyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol sydd wedi eu lleoli ym mhob Cyngor Gwirfoddol Sirol a'r Hwylusydd Cenedlaethol yn CGGC, a hwy yw asgwrn cefn Codi Pontydd Cadarn.
Mae Adroddiad Codi Pontydd Cadarn yn cydnabod y rôl allweddol y gall y CIG chwarae mewn annog, cefnogi a gweithio hefo’r sector a hefyd, ar y llaw arall, cydnabod y cyfraniad pwysig gall y sector ei wneud tuag at yr agenda iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod fod gan awdurdodau lleol, ym maes gofal cymdeithasol, ran i chwarae i helpu’r sector gwirfoddol i allu cyfrannu i’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu.
Mae copi electronig o'r ddogfen Codi Pontydd Cadarn ar gael ar wefan y Cynulliad: Cliciwch yma
|